Deuawdau Rhys Meirion
S4C | 6 x 60munud
Rhys Meirion sydd ar daith i ddod i adnabod rhai o artistiaid cerddorol mwyaf poblogaidd Cymru’n well.
Ymunwn â’r tenor byd-enwog Rhys Meirion wrth iddo ddod i adnabod rhai o artistiaid cerddorol mwyaf poblogaidd Cymru a chydweithio gyda nhw mewn stiwdio i recordio trefniant cwbl newydd o ddeuawdau poblogaidd.
Mae Rhys yn teithio ar hyd Cymru ac ymweld â nifer o leoliadau sy’n golygu llawer i artist yr wythnos wrth iddynt ddatgelu straeon personol na chlywyd gan yr artisistiad o’r blaen.
Yn y lleoliadau hyn, mae perfformiadiau unigol gan yr artist yn ogystal a’r deuawdau unigryw – un o ddewis yr artist, ac un o ddewis Rhys.