Dim Byd Sbeshial
S4C | 5 x 60munud
Cyfres adloniant newydd yng nghwmni Chuckles a chymeriadau eraill Dim Byd.
Os doedd Dim Byd ddim yn ddigon i chi, mi fydd Dim Byd Sbeshial yn dod a llawer mwy o Ddim Byd mewn cyfres adloniant i’r teulu oll.
Gyda Chuckles y Clown wrth y llyw, ynghyd â Mari Lovgreen fel does neb erioed wedi ei gweld hi o’r blaen, mi fydd y rhaglen yn llawn gemau, sgwrsio a newyddion.
Yn y rhaglen gyntaf, y cyflwynydd Nia Roberts yw’r gwestai a bydd yn trafod ei chyfres newydd, Palu Clwydda.