• Dim Byd

Dim Byd

S4C | 6 x 30munud

Syrffio heb unrhyw euogrwydd yn y gyfres gomedi sy’n neidio o un sbwff o raglen i un arall.

Mae sianeli coll yn cael eu darganfod sy’n ein cyflwyno i bob math o raglenni swreal. Ac nid actorion sy’n cymryd rhan yn y gyfres hon, o na, ond pobl go iawn. Ond, mae’n rhaid dweud maen nhw’n gwneud ac yn dweud y pethau rhyfedda!

Yn Hanes dy Nain, cawn hanes Rose Roberts. Mae hi’n hel atgofion am y rhyfel a pha mor anodd oedd hi i gael wi-fi yn ystod y Blitz! PC Gwilym Preis o’r Blue Watch sy’n ceisio cadw trefn ar ddihirod yn Ar y Bît. A lle mae Wnwcl Kenny yn cael y nwyddau mae’n ei werthu ar Bachu Bargen? Gwell peidio holi gormod!