Dyddiaduron Y Rhyfel Mawr
S4C | 8 x 60munud
Cyfres ddrama-ddogfen yn seiliedig ar brofiadau pobl o bob rhan o Ewrop yn ystod y Rhyfel Mawr.
Cyfres sy’n nodi canmlwyddiant y Rhyfel Mawr yn 1914 sy’n dweud hanes y rhyfel drwy lygaid y rhai a fu drwyddi.
Mae’r gyfres, a gynhyrchwyd yn wreiddiol gan gwmni Looksfilm o Leipzig, Yr Almaen, wedi cael ei saethu ar leoliad yn Ffrainc, Yr Almaen a Chanada, ac yn defnyddio dyddiaduron a llythyron pobl o bob rhan o Ewrop. Clywir lleisiau Catrin Mara, Ffion Llwyd a Gwilym Bowen Rhys ymhlith eraill yn yr addasiad hwn ar gyfer S4C.