Dylan Thomas : Bardd a’i Ryfel

S4C | 1 x 60munud

Rhaglen ddogfen sy’n codi’r clawr ar ochr lai cyfarwydd ar waith y bardd byd-enwog fel sgriptiwr ffilmiau propaganda yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Gan mlynedd ar ôl geni Dylan Thomas, fe fyddech yn meddwl y byddem ni’n gwybod pob dim am bob agwedd ar ei fywyd a’i waith fel llenor.

Ond mae’r rhaglen ddogfen Dylan Thomas: Bardd a’i Ryfel yn codi’r clawr ar ochr lai cyfarwydd ar waith y bardd byd-enwog o Abertawe, sef ei waith fel sgriptiwr ffilmiau propaganda yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Yn y rhaglen fe fydd y bardd a’r cynhyrchydd ffilm a theledu Ifor ap Glyn yn bwrw golwg ar yr ochr lai amlwg yma ar fywyd Dylan.

Meddai Ifor ap Glyn, “Wrth ddathlu canmlwyddiant ei eni, mae’n gwbl naturiol mai dathlu ei waith fel bardd, dramodydd a storïwr y dylem yn bennaf. Ond ddylem ni ddim anwybyddu ei waith yn y maes propaganda a ffilm, mi wnaeth o ddylanwadu ar ei ddatblygiad fel bardd ac efallai na ellir llawn werthfawrogi ei gerddi heb hefyd werthfawrogi ei gariad at ffilm.”

Rhwng 1941 a 1945, bu Dylan Thomas yn ysgrifennu sgriptiau i’r Weinyddiaeth Wybodaeth – Ministry of Information. Yn ei gwest i ddarganfod pam a sut yr aeth Dylan Thomas (1914-1953) i weithio fel propagandydd, mae Ifor yn teithio o Abertawe i Lundain, ac yn crwydro trwy archif ffilm werthfawr.

Bydd yn siarad ag arbenigwr ar fywyd Dylan, Dr John Goodby, a gyda Dr Jamie Medhurst, sy’n hen gyfarwydd â diwydiant ffilmiau propaganda cyfnod y rhyfel.

A beth am wleidyddiaeth Dylan? Sut oedd dyn a dueddai tuag at adain chwith y sbectrwm gwleidyddol, a thuag at heddychiaeth fynd ati i werthu neges ryfelgar y llywodraeth? Mae’r daith yn cychwyn yng nghartref cynta’r bardd yn Cwmdonkin Drive, lle ysgrifennodd draethodau deallus am y byd ffilm ar gyfer cylchgrawn yr ysgol.

Roedd yn 25 oed erbyn iddo weithio gyda’r Weinyddiaeth Wybodaeth ac eisoes wedi cyhoeddi pum cyfrol o gerddi, yn ogystal â sgriptio i’r BBC. Fodd bynnag, fe arweiniodd ei gariad at y cyfrwng ffilm, yn ogystal â’i angen i gynnal ei deulu a chadw’r blaidd rhag y drws, tuag at ei gyflogaeth gyda Strand Films yn Soho, ac yn nes ymlaen Gryphon Films.

Roedd ffilmiau propaganda’r Ail Ryfel Byd yn llawer llai jingoistaidd na rhai’r Rhyfel Byd Cyntaf, meddai Ifor, ac yn rhoi llawer mwy o bwyslais ar yr hyn yr oedd y wlad yn ymladd drosto na’r gelyn yr oedden nhw’n ymladd yn ei erbyn.

Eglura Ifor, “Fe ddangosodd yn y ffilmiau propaganda ei allu i gyfleu neges ac adrodd stori mewn ffordd delynegol a barddonol a oedd hefyd yn boblogaidd ac yn hawdd ei deall. Fe ddaeth y gallu hwn i’r amlwg mewn ffordd greadigol iawn yn nes ymlaen yn y clasur hwnnw, Under Milk Wood.”