Dyma Fi

S4C

Cyfle unigryw i edrych ar fywyd pobl ifanc yng Nghymru.

Golwg unigryw ar fywyd pobl ifanc rhwnc 13-18 yng Nghymru. Mae’r ffilm ddogfen wreiddiol a gafodd ei gynhyrchu gan bobl ifanc yn cynnig cofnod amrywiol o un diwrnod cyffredin ym mis Mehefin.

Yn dilyn y ffilm ddogfen hon, fe gafodd cyfres o raglenni eu ffilmio i grynhoi canfyddiadau arolwg arbennig ‘Dyma Fi’ a chael ymateb pobol ifanc Cymru rhwng 15 ac 18 oed.
Creuwyd yr holiadur  – o bosib y mwyaf o’i fath i bobl ifanc – ar y cyd gyda Phrifysgol Bangor, sy’n cynnwys atebion amrywiol i gwestiynau ar bynciau gwahanol o hiliaeth i agweddau ar rhyw.
Fuon ni’n ail-ymweld â rhai o’r cyfrannwyr wnaeth ymateb nôl ym mis Tachwedd 2013 gan ofyn eu barn nhw – ydi o’n cadarnhau yr hyn oeddent yn feddwl ar y pryd? Neu a oes canlyniadau annisgwyl?