Dyma Fi
Newid agweddau tuag at pobl ifanc Cymru
Gwefan i bobl ifanc rhwng 13-18 gael dweud eu dweud oedd Dyma Fi.tv, a arweinodd at raglen deledu ar S4C. Nod y prosiect ydi rhoi darlun gonest o fywyd pobl ifanc yng Nghymru heddiw – yn eu geiriau eu hunain. Roedd y ffilm a phrosiect digidol sydd wedi’i ddatblygu gan S4C gyda nifer o bartneriaid eraill. Mae’r partneriaid yma yn cynnwys Comisiynydd Plant Cymru, yr Urdd, Clwb Ffermwyr Ifanc, Gwobr Dug Caeredin a Ffilm Club Cymru. Dechreuodd ‘Dyma Fi’ fel ymgyrch gan Y Comisiynydd Plant Cymru i geisio chwalu rhagfarnau a gwella agweddau tuag at bobl ifanc.