Evan Jones a’r Cherokee
S4C | 3 x 60munud
Mewn cyfres o dair rhaglen, yr Athro Jerry Hunter fu’n olrhain hanes y Cymro Evan Jones ac i ddysgu mwy am y gymuned Cherokee heddiw.
Ym 1838 fe gafodd cenedl gyfan o’r Cherokee eu gyrru o’u cartrefi yn nwyrain America i wneud lle i’r dyn gwyn, ac roedd y cenhadwr Evan Jones yn dyst i’r cyfan. Yn ystod y gyfres, Jerry Hunter fu’n olrhain hanes Evan Jones a’i daith o Llaneigon, ger y ffin â Lloegr, i Ogledd Carolina. Yno ymsefydlodd Evan Jones fel cenhadwr a dysgu’r iaith frodorol. Pan gafodd y Cherokee eu gorfodi i adael eu tir, fe aeth Evan Jones gyda nhw.