Fferm Ffactor Selebs

S4C | 3 x 60munud

O’r carped coch i garped gwair – selebs sy’n gobeithio profi eu hunain ar y buarth.

Mae Fferm Ffactor Selebs yn ôl, ac unwaith eto mae ‘na dimau o selebs yn cystadlu mewn tasgau amaethyddol.

Yn y rhaglen gyntaf bydd dau dîm yn mynd ben-ben â’i gilydd. Capten y tîm cyntaf yw’r cyflwynydd Owain Williams a bydd yntau yn cesio cadw trefn ar ei gyd gyflwynydd Mari Lovgreen a chyn brif weinidog Cymru Carwyn Jones.

Yn ymuno a’r cerddor Brychan Llyr yn yr ail dîm bydd y cyflwynydd Elinor Jones a’r canwr Lloyd Macey.

Bydd enillwyr y rhaglen yma yn mynd ymlaen i’r rownd derfynol i frwydro am deitl Fferm Ffactor a gwobr ariannol i elusen o’u dewis.