Gardd Pont Y Tŵr
S4C | 6 x 30munud
Plannu gardd yn her newydd i gynllunydd blodau o Ddyffryn Clwyd.
Mae Sioned Edwards yn wyneb cyfarwydd i wylwyr S4C fel cynllunydd blodau, ond mae gan Sioned her arall wrth droi hanner acer o gae ger ei thŷ fferm yn ardd lysiau, ffrwythau a blodau.
Dyma gyfres o ddilyn datblygiad yr ardd wrth i Sioned, ei gŵr Iwan a’u dwy ferch fach, Nanw a Malan dorchi llewys a dylunio gardd organig.
Symudodd Sioned i fyw yn hen ffermdy ei nain a’i thaid wrth droed Moel Famau yn Nyffryn Clwyd a dyna oedd dechrau’r prosiect cyffrous ac uchelgeisiol. Yn ystod ffilmio’r gyfres, mae Sioned, sy’n wreiddiol o Aberchwiler yn Sir Ddinbych, yn dod yn fwy cyfarwydd â thrin llysiau a phlanhigion, ac yn mwynhau cydweithio ar brosiect gyda’i gŵr hefyd.
“Rydyn ni’n dysgu drwy’r amser. Dydan ni erioed wedi cael gardd ein hunain, ac rydan ni wedi g’neud lot o waith ymchwil a gwario amser yn ail gynllunio fel bod yr ardd yn g’neud popeth sydd eisau arnom. Mae na gamgymeriadau ac ail feddwl yn digwydd yn amal. Ond dyna ydy gardd – rhywbeth sydd yn datblygu, ac mae o’n neis dysgu rhywbeth newydd, a dysgu pethau newydd am ein gilydd hefyd.”
Mae Sioned a’i theulu yn byw mewn carafán ar hyn o bryd, gan fod yr hen ffermdy angen llawer o waith. Dyw byw mewn lle cyfyng ddim bob amser yn rhwydd, ond dywed ei bod yn sbardun iddyn nhw dreulio mwy o amser yn yr ardd!
Un o’r egwyddorion pwysica’ i Sioned ac Iwan ydy tyfu planhigion mewn dull organig. Yn y gyfres fe welwn ni’r ddau yn ceisio cadw’r ardd mor wyrdd â phosib ac yn tyfu tatws heb chwistrell y chwynladdwr, menter nad oedd yn hawdd ar dir mynyddig. Mae Sioned hefyd yn credu ei bod hi’n bwysig tyfu llysiau iddi hi a’i theulu eu bwyta.
“Rydyn ni’n mynnu ein bod ni fel teulu yn plannu’n llysiau ein hunain heb ddibynnu gormod ar archfarchnadoedd. Dwi’n cael mwynhad o weld y plant yn dysgu; trwy hynny rydych chi’n gwerthfawrogi bwyd lot mwy,”
Yn ystod y gyfres cawn gyfarfod nifer o gymeriadau’r ardal, aelodau o deulu Sioned, yn ogystal ag ambell fochyn o’r fferm gerllaw! Maen nhw i gyd eisiau gweld Gardd Pont y Tŵr yn blaguro unwaith eto.