• Gêmtiwb ar Daith

Gêmtiwb ar Daith

Gafodd y prosiect Gêmtiwb ar Daith ei cefnogi gan S4C mewn partneriaeth gyda cynllun Cyngor Gwynedd, sef Siarter Iaith.

Roedd prosiect Gemtiwb ar Daith wedi’i gefnogi gan S4C mewn partneriaeth â chynllun Siarter Iaith Cyngor Gwynedd. Fe fuon ni’n ymweld ag 18 o ysgolion cynradd ar hyd Pen Llŷn gan roi’r cyfle i dros 300 o blant greu fideos. Cafodd y fideos eu cyhoeddi ar sianel YouTube arbennig i’r ysgolion. Yn ôl ystadegau’r Siarter Iaith, fe welwyd cynnydd o 48% yn y nifer o ddisgyblion sy’n defnyddio technoleg trwy gyfrwng y Gymraeg ar ôl ein hymweliad.