Generation Beth
Pwy yw’r Cymry ifanc cyfoes?
Mae Generation Beth yn rhaglen ryngweithiol a gynhyrchir gan France Télévisions, Upian, a Yami 2, mewn partneriaeth â’r EBU yn ogystal â 14 o ddarlledwyr Ewropeaidd. Mae’n esblygiad o Generation Quoi, arolwg a gynhaliwyd yn Ffrainc yn 2013 i greu portread o’r genhedlaeth rhwng 15 a 34 oed. Y tro hwn, mae 11 o wledydd wedi ymuno â Ffrainc i greu digwyddiad wirioneddol Ewropeaidd: Yr Almaen, Awstria, Gwlad Belg, Sbaen, yr Eidal, Iwerddon, Lwcsembwrg, yr Iseldiroedd, Cymru, a’r Weriniaeth Tsiec.
Mae’r prosiect yn cael ei rhannu yn dair rhan:
- Holiadur ar-lein cynhwysfawr, sydd ar gael yn y gwledydd Ewropeaidd hynny sy’n cymryd rhan, ac wedi’i gynllunio gyda chymorth cymdeithasegwyr. Pwrpas yr holiadur hwn yw edrych ar uchelgeisiau, gobeithion, ac ofnau’r genhedlaeth hon.
- Rhaglen ddogfen a phortread ystadegol o bobl ifanc Cymru, yn cynnwys eu profiadau, fydd yn cael eu profi gan y data byw a gesglir drwy’r holiadur.
- Rhaglen ddogfen a phortread ystadegol o ieuenctid Ewropeaidd, sy’n cynnwys profiadau pobl ifanc o’r holl wledydd sy’n cymryd rhan, a bydd rhain eto’n cael eu profi gan y data byw a gesglir trwy’r holiadur, yn ogystal â map gwybodaeth ar ffurf graffeg fydd yn cymharu atebion fesul gwlad ar raddfa Ewropeaidd.