Cyngedd Côr Glanaethwy a Gondwana Chorale
S4C | 1 x 90munud
Cyngerdd yng nghwmni Côr Ysgol Glanaethwy a Chôr Cenedlaethol Awstralia, Y Gondwana Chorale.
Cyngerdd sy’n cyfuno talentau corawl ieuenctid o ddau begwn byd; Côr Glanaethwy sydd ag aelodau yn dod o Ogledd Orllewin Cymru a’r Gondwana Chorale sydd ag aelodau yn dod o bob cwr o Awstralia. Y tenor Wyn Davies, aelod blaenllaw o Only Men Aloud, sy’n cyflwyno gwledd o ganu corawl ieuenctid ar ei orau mewn noson gafodd ei recordio’n ddiweddar yn neuadd urddasol Dora Stoutzker yn y Coleg Cerdd a Drama yng Nghaerdydd.