Gohebwyr : Owen Davis

S4C | 1 x 60munud

Cipolwg ar Affganistan tu hwnt i faes y gad trwy lygaid y cyn-gomando Owen Davis

Trwy lygaid Owen Davis cawn ninnau hefyd gipolwg ar Affganistan y tu hwnt i faes y gad.

Treuliodd y cyn-gomando Owen Davis bron i flwyddyn yn Affganistan. Dysgodd ieithoedd Affganistan a bu’n byw a gweithio y tu hwnt i wersylloedd y fyddin, ymhlith pobl a lluoedd lleol Helmand.

Erbyn Rhagfyr 2014 roedd holl luoedd Prydain wedi gadael Affganistan. Gyda dyfodol Affganistan yn ansicr aeth Owen yn ôl i’r wlad yr oedd ef mor gyfarwydd â hi, i dreulio amser unwaith eto ymhlith ei phobl, ond y tro hwn fel teithiwr cyffredin.