Gwerin Tyddewi

S4C | 1 x 90munud

Uchafbwyntiau Gŵyl Werin Tyddewi gyda pherfformiadau gan fand Cymreig/Gwyddeleg newydd sbon, Clancy Cymru, Calan, Honey Fungus a Dave Burns.

Uchafbwyntiau Gŵyl Werin y Pererin yn Nhyddewi ac mae criw o gerddorion wedi teithio o Iwerddon i roi clo arbennig i’r cyngerdd. Cafodd y canwr Ryland Teifi a’i wraig Roisin Clancy gomisiwn i ffurfio grŵp newydd sbon ar gyfer yr ŵyl i ddathlu’r cysylltiad clos rhwng y rhan yma o Gymru a’r Ynys Werdd. Mae Roisin yn ferch i Bobby Clancy, un o’r Brodyr Clancy enwog, ac mae’r rhan fwyaf o’r grŵp newydd Clancy Cymru yn ddisgynyddion i’r brodyr. Yr artistiaid eraill yw Calan, Honey Fungus, Dyson’s Wake a Dave Burns sy’n aelod gwreiddiol o’r Hennessys ac Ar Log.