Nadolig Hafod Lon
S4C | 1 x 60munud
Guto Meredydd a disgyblion Ysgol arbennig Hafod Lon sy’n paratoi cyngerdd Nadolig sbesial iawn ym Mhortmeirion.
Mae’r Nadolig yn amser sbesial i bawb, ond i griw bach sy’n mynychu Ysgol Hafod Lon ym Mhenrhyndeudraeth, ysgol ar gyfer plant ag anghenion ychwanegol, mae’n fwy sbesial fyth eleni, oherwydd bydd y disgyblion yn dod at ei gilydd i lwyfannu cyngerdd Nadolig arbennig. Cyngerdd Nadolig fydd yn digwydd ym Mhortmeirion, yn hud cyfareddol y pentre’ Eidalaidd, sydd nepell o’r ysgol. Bydd y rhaglen yn rhoi llwyfan i dalentau’r ysgol ac un o’r rheiny ydi Guto Meredydd, tipyn o gymeriad sy’n syth bin yn anwylo’i hun at bawb. Mae’i hiwmor yn heintus a chawn weld y cyngerdd yn dod at ei gilydd drwy lygaid Guto. Mae’n recriwtio’r ysgol gynradd leol, Ysgol Cefn Coch, i helpu gyda’r canu ac mae wynebau cyfarwydd yn rhoi syrpreis i’r plantos – Dewi Pws sy’n rhoi arweiniad i Guto gyda’r cyflwyno a dweud jôcs ac Elin Fflur sy’n ymuno â merched yr ysgol mewn carol hudolus.