• Oriel Plas Glyn-y-Weddw

iBeacons Plas Glyn-y-Weddw

Ap symudol a ddefnyddiai dechnoleg synhwyro lleoliad iBeacon i gyflwyno cynnwys yn ymwneud â’r arddangosfa i ymwelwyr â’r oriel

Cymharol brin o hyd yw’r prosiectau sy’n arbrofi â thechnoleg iBeacon. O ganlyniad, cychwynnodd y tîm ar daith flaengar a archwiliai botensial y dechnoleg ar gyfer gwella cyswllt â’r gynulleidfa mewn arddangosfa o gelfyddydau gweledol. Gyda’i gilydd, datblygodd y tîm ddull iterus gan ddefnyddio dyfeisiau iBeacon bach i archwilio eu syniadau ar gyfer dau ddigwyddiad peilot, gan greu ap terfynol ar ddiwedd y broses.

Cynhaliwyd y peilot cyntaf yn yr Oriel, a gosodwydiBeacons o dan ddarnau unigol o weithiau celf yr artist, Diane Metcalf. Roedd pob un yn sbarduno cynnwys drwy ap iOS ac Android, gan ddarparu gwybodaeth ychwanegol a manwl ynglŷn â’r gwaith celf, wedi’i gyflwyno gan yr artist ac arbenigwyr yn y celfyddydau gweledol.

Rhoddodd yr ail beilot ben rhyddid i fyfyrwyr Coleg Menai ddefnyddio dyfeisiau iBeacon i greu gwelliannau amlgyfrwng i’w gweithiau celf gweledol, o seinweddau amgylcheddol, i gelf fideo, i ddarlleniadau dramatig, wedi’u cyflwyno drwy apiOS prototeip.

Drwy’r ddau brosiect peilot, cafwyd digon o brofiad i lunio’r ap terfynol, sef Canllaw i Ymwelwyr Oriel Plas Glyn-y-Weddw. Yn ogystal â defnyddio dyfeisiau iBeacon i roi gwybodaeth am arddangosfeydd unigol, mae’r ap hefyd yn rhoi taith dywys o’r adeilad. Drwy ehangu swyddogaeth yr ap, y mae’n offeryn i greu cyswllt â’r gynulleidfa, gan ddenu a chadw ymwelwyr yn yr arddangosfeydd, yn hytrach na’u bod yn defnyddio cyfleusterau’r adeilad yn unig. Mae’r ap hefyd yn caniatáu i’r defnyddwyr bori drwy’r cynnwys o bell, heb fod angen bod yn agos at iBeacon. Er bod yriBeacons yn sbarduno cynnwys penodol ar y safle, gall cynnwys yr ap gael ei weld o bell hefyd, drwy lywio â llaw.