• Ifor ap Glyn : Blwyddyn y Bardd

Ifor ap Glyn : Blwyddyn y Bardd

S4C | 1 x 60munud

Golwg ar flwyddyn gyntaf Ifor ap Glyn yn ei rôl newydd fel Bardd Cenedlaethol Cymru.

Mewn blwyddyn a welodd ddigwyddiadau annisgwyl, fel Brexit a rhediad gwych Cymru yn Ewro 2016, yn hawlio’r pennawdau; yn ogystal a choffad trychineb Aberfan a marwolaeth y bardd Hedd Wyn, bu’n sicr yn fedydd tân i’n Bardd Cenedlaethol newydd.

O Gaernarfon i Wlad Belg, gan alw yn y Coed Duon, Abertawe, Llundain a Toulouse ar hyd y ffordd, cawn weld sut mae Ifor yn dygymod â disgwyliadau cynyddol y swydd.