I’r Gwyllt – Papua New Guinea
S4C | 1 x 60munud
Dilynwch daith gerddorol Amlyn Parry wrth iddo ddychwelyd yn ôl i Papua New Guinea.
Ddeng mlynedd yn ôl bu’r cerddor Amlyn Parry yn byw yn ucheldiroedd Papua New Guinea, ac yn gweithio fel athro cerdd yn un o’r cymunedau brodorol yno.
Er ei fod bellach yn gweithio fel arweinydd awyr agored yng Nghanolfan Bwlch yr Haearn ger Llanrwst, mae’r atynfa tuag at yr ynys bellennig a diwylliant ei phobol mor gryf ac erioed.
Mae I’r Gwyllt: Papua New Guinea, a gafodd ei ddarlledu nos Sadwrn 10 Rhagfyr 2016, yn olrhain taith Amlyn wrth iddo ddychwelyd i’r gymuned honno er mwyn cyfarfod hen ffrindiau a recordio rhywfaint o gerddoriaeth lleol yr ardal.
Yn Papua New Guinea mae yna dros 820 o ieithoedd gwahanol yn cael eu siarad – sef 12% o holl ieithoedd y byd. Mae hi’n ynys fynyddig sydd yn drwm o dan goedwigoedd trofannol ac felly mae’r cymunedau lu sy’n byw mewn pentrefi ac ardaloedd diarffordd wedi gallu cynnal eu diwylliannau unigryw eu hunain.
Gyda’r cyfeillgarwch rhyngddo a’r gymuned ble bu’n byw wedi goroesi’r blynyddoedd a’r milltiroedd, mater o amser oedd hi nes y byddai Amlyn yn dychwelyd yno. Y tro hwn, fodd bynnag, roedd eisiau rhoi rhywbeth nôl i’r gymuned fuodd mor dda wrtho’r tro diwethaf.
Gwelodd ddegawd yn ôl sut y gallai cerddoriaeth leddfu’r tensiynau a’r trais sydd rhwng y gwahanol lwythau yno. Y tro hwn aeth ag offer recordio sain gydag o a bu’n brysur yn recordio cymaint ag y gallai o gerddoriaeth leol gan nad oes gan nifer helaeth o’r boblogaeth y dechnoleg na’r arian i recordio eu cerddoriaeth eu hunain.