Llan-ar-goll-en

S4C | 25 x 15munud

Cyfres gomedi feithrin yn dilyn hynt a helynt dau dditectif tra gwahanol wrth iddynt geisio datrys y nifer di-rif o bethau sy’n mynd o’i le ac ar goll ym mhentre’ gwallgof, Llan-ar-goll-en.

Arwyr y gyfres yw ditectifs y pentre, Prys ar Frys a’i bartner, Cerys y Ci-dectif.

Gyda’i llygaid craff a’i chlustiau hir, ‘dyw Cerys yn colli dim. Mae Prys ar Frys, ar y llaw arall, sydd ar dân i wneud popeth NAWR yn colli cryn dipyn…ond rhyngddynt ( a dyn a ŵyr sut weithiau), llwyddant i ddatrys pob dirgelwch yn y pentre’…