Llanw

S4C | 3 x 60munud

Trwy straeon o Gymru a phedwar ban byd byddwn yn edrych ar ddylanwad y grym cyntefig hwn ar fywyd pob un ohonom. O lanw ucha’r byd i drobyllau a thonnau ysgubol, o fwrdd tancer olew i draethau Donegal, mae’r amrywiaeth yn rhyfeddol.

Mae’r llanw yn effeithio ar bawb, ond i’r rhan fwyaf ohonom mae’r hyn sy’n achosi llanw a thrai yn ddirgelwch llwyr. Trwy straeon o Gymru a phedwar ban byd cawn olwg ar ddylanwad y grym cyntefig hwn ar fywyd pob un ohona ni.