Lle Aeth Pawb? Merched Pop ’65-’75
S4C | 1 x 60munud
Mewn rhaglen arbennig awr o hyd, cawn flas ar fywyd ieuenctid y cyfnod – o fwrlwm bywyd cymdeithasol a diwyllianol cymunedau ar draws Cymru i ffasiwn a dylanwad cerddoriaeth rhyngwladol.
Cawn glywed am agweddau tuag at ferched y cyfnod, eu dyheadau, a’u rhwystredigaethau.
‘Lle aeth’ Evelyn Owen o Fôn aeth ymhell iawn o’i chynefin cyn cael ‘hit’ a rhif 1 yn y siartiau yn Singapore? A pha droeon brofodd Tammy Jones yn ei bywyd personol wrth iddi frwydro i gadw ei statws fel cantores broffesiynol ar hyd y blynyddoedd? ‘Lle aeth’ y Pelydrau o Drawsfynydd, a’r triawd ffasiynol o Gaerdydd, Y Diliau?
Hon yw stori Merched Pop Cymru y chwedegau a’r saithdegau.