Llefydd Sanctaidd
S4C | 6 x 30munud
Hanes, traddodiadau, crefydd a chredoau; dyma sy’n mynd â bryd Ifor ap Glyn yn Llefydd Sanctaidd.
Yn ystod y gyfres mae Ifor yn crwydro Ynysoedd Prydain benbaladr gan fynd ar drywydd llefydd sanctaidd a’r darnau o hanes hynny sydd wedi gadael eu hôl ar hyd a lled y wlad.
Mae’r llefydd sanctaidd hyn yn amrywio o adfeilion ac ynysoedd, i goed ac ogofau, ond dŵr fydd dan sylw yn y rhaglen gyntaf. Mae’r daith yn cychwyn mewn man hudolus uwchben dyffryn Conwy. Yno, yn Eglwys Llangelynnin, mae ffynnon gyda dŵr, sydd yn ôl y sôn, â phwerau i wella plant gwael.
Gyda chymorth ap arbennig Llefydd Sanctaidd gallwch chithau gychwyn ar eich pererindod eich hunain i un o’r 37 lle sanctaidd sy’n ymddangos yn y gyfres. Gan ddefnyddio technoleg GPS, gallwch ddarganfod sut i gyrraedd, edrych ar luniau a darllen am hanes y llefydd sanctaidd. Gyda chyfarwyddiadau, map a gwybodaeth i ymwelwyr mae popeth sydd ei angen arnoch cyn cychwyn am dro i gyd ar gael mewn un man cyfleus ar yr ap arbennig hwn.