Lleisiau’r Ail Ryfel Byd
S4C | 7 x 60munud
Hanes yr Ail Ryfel Byd drwy eiriau’r Cymry fu’n ymladd ynddo, ac yn byw drwyddo.
Yn y gyfres Lleisiau’r Ail Ryfel Byd, rhoddir ar gof a chadw brofiadau’r milwyr a’r sifiliad o Gymru sy’n cofio’r blynyddoedd rhwng 1939 a 1945.
Ym 1939 gwelodd Cymru y paratoadau amddiffyn tuag at y rhyfel anochel yn prysuro. Dosbarthwyd miloedd o gas masks, hyd yn oed yng nghefngwlad, ac roedd pawb, nid yn unig y Corfflu Gwylio Brenhinol, yn chwilio’r awyr am awyrennau’r Luftwaffe. Pan gyhoeddwyd y rhyfel ym mis Medi, daeth ton ar ôl ton o ifaciwîs i gefngwlad. Iddyn’ nhw, ac i bawb arall, byddai bywyd byth ’run fath eto.