Lleisiau’r Rhyfel Mawr
S4C | 4 x 30munud
Cyfres sy’n adrodd profiad ysgytwol y rhyfel erchyll yng ngeiriau’r Cymry Cymraeg fu’n ymladd ar feysydd gwaedlyd Ewrop.
Cyfres bedair rhan sy’n dweud stori’r Rhyfel Mawr 1914-1918 trwy lythyron, dyddiaduron personol ac erthyglau papur newydd. Cafodd ei ffilmio mewn lleoliadau allweddol fel caeau Fflandrys yng Ngwlad Belg, ardal y Somme yn Ffrainc, penrhyn Gallipoli a Jerwsalem.
Fe listiodd 272,000 o fechgyn a dynion o Gymru yn y lluoedd arfog, ac mae’n debygol bod o leiaf 100,000 ohonynt yn medru’r Gymraeg. Bu farw 40,000, sef un o bob saith o’r Cymry fu’n ymladd yn y Rhyfel Mawr.