Llyfr Y Flwyddyn 2018

S4C | 1 x 60munud

Gwion Hallam sy’n cyflwyno uchafbwyntiau Seremoni Wobrwyo Llyfr y Flwyddyn 2018

Dyma un o nosweithiau pwysicaf y byd llenyddol yng Nghymru a chawn weld pa awduron a pha lyfrau fydd wedi ennill y gwobrau eleni. Cawn glywed ymateb enillwyr y categoriau gwahanol yn ogystal ag enillydd Prif Wobr Llyfr y Flwyddyn. Bydd Gwion yn holi dau o’r beirniaid, Beti George a Caryl Lewis, cyn trafod y canlyniadau gyda Bethan Mair ac Ian Rowlands, dau sylwebydd parod eu barn.

Gwobr Farddoniaeth
Llif Coch Awst, Hywel Griffiths (Cyhoeddiadau Barddas)
Treiglo, Gwyneth Lewis (Cyhoeddiadau Barddas)
Caeth a Rhydd, Peredur Lynch (Gwasg Carreg Gwalch)

Gwobr Ffuglen
Gwales, Catrin Dafydd (Y Lolfa)
Fabula, Llŷr Gwyn Lewis (Y Lolfa)
Hen Bethau Anghofiedig, Mihangel Morgan (Y Lolfa)

Gwobr Ffeithiol Greadigol
Meddyginiaethau Gwerin Cymru, Anne Elizabeth Williams (Y Lolfa)
Blodau Cymru: Byd y Planhigion, Goronwy Wynne (Y Lolfa)
Ar Drywydd Niclas y Glais, Hefin Wyn (Y Lolfa)