Marathon Eryri

S4C | 60munud

Marathon Eryri. Un o’r cyrsiau caletaf a harddaf ar y calendr rhedeg rhyngwladol.

Ers ei sefydlu ym 1982, mae’r marathon wedi mynd o nerth i nerth, a bellach mae dros ddwy fil o redwyr o bedwar ban byd yn mynd amdani, boed law neu hindda.
Gyda Huw Jack Brassington, Nic Parry a Sian Williams yn ein tywys trwy holl gyffro y ras.