Meic Stevens : Dim Ond Cysgodion

S4C | 1 x 60munud

Rhaglen ddogfen fywgraffiadol am Meic Stevens sy’n ein tywys ar daith archifol a chyfredol wrth archwilio ei yrfa gerddorol faith a’i fywyd lliwgar.

Rhaglen ddogfen fywgraffiadol am un o’r cymeriadau mwyaf dylanwadol ac enigmatig yn hanes diwylliant poblogaidd Cymru dros y 60 mlynedd diwethaf. Cawn ein tywys ar daith gerddorol, archifol a chyfredol wrth ddilyn ei yrfa a’i fywyd personol dros y degawdau, o’i ddyddiau cynnar yn Solfach, Caerdydd a Manceinion i’w gartref presennol yn y Sblot, Caerdydd.

Yn cynnwys cyfweliadau sain gyda’r rhai sydd fwyaf agos ato, cawn ddadansoddiad gonest o’i orchestion a’i gamgymeriadau. Gyda pherfformiadau a chyfweliadau ffilm a radio o’r archif, cyflwynir ei gatalog recordiau yn gronolegol gan olrhain ei yrfa fel cerddor a chyfansoddwr athrylithgar a chymeriad unigryw, dadleuol.