Nofio Adre
S4C | 3 x 60munud
Cyfres ddogfen antur tair rhan yn dilyn taith y cyflwynydd Gareth Jones wrth iddo herio’i hun i nofio 60km i ddathlu ei ben-blwydd yn 60 oed.
Bydd camerâu yn dilyn Gareth pob cam o’r ffordd mewn cyfres ddogfen arsylwadol (ob doc) wrth iddo wthio’i hun i’r eithaf gan nofio ar draws llynnoedd a chronfeydd dŵr o dde i ogledd Cymru mewn tair wythnos.
Dechreuodd Gareth, sydd yn wreiddiol o ogledd-ddwyrain Cymru ond bellach yn byw yn Llundain, nofio’n wyllt rhai blynyddoedd yn ôl gyda ffrindiau a sylwi ei fod yn “reit dda yn gwneud”. Ers hynny mae o wedi bod yn nofio mewn cronfa ddŵr lleol i gynyddu ei bellter.
“Mae am fod yn her enfawr ond dwi am roi’r cynnig gorau arni.” Meddai Gareth. “Am ffordd arbennig o ail-ddarganfod fy mamwlad yn archwilio straeon o gwmpas ac o dan y dŵr. Mi ddylai hyn wneud i’r gwylwyr ymgolli hefyd, drwy gyfuno technegau dogfennol clasurol â graffeg gyfrifiadurol arloesol sy’n datgelu’r byd isod a chofnodi fy nata biolegol wrth i mi nofio.”
“Dydw i ddim yn siŵr os alla’i wneud hyn, ond yr hyn dwi yn gwybod ydi nad ydi o erioed wedi’i wneud o’r blaen. Dwi’n gobeithio mai fi fydd y dyn a nofiodd ledled Cymru!”