O’r Galon : Yn Y Canol

S4C | 1 x 60munud

Pan oedd Hero Douglas o Gapel Curig yn 5 oed, gwahanodd ei rhieni, gan adael Hero a’i brawd Tybalt yng nghanol dadlau eu rhieni ynghylch ysgaru.

“Roeddwn i’n bump oed, a fy mrawd yn dair oed” dywed Hero sy’n byw gyda’i mam yng Nghapel Curig. “Roedd pethau’n anodd iawn i fi a fy mrawd. Teulu ni oedd yr unig un roeddwn i’n adnabod oedd wedi gwahanu. Roeddwn i’n meddwl mai fy mai i oedd o, achos roedden nhw’n ffraeo amdanon ni. Roeddwn i eisiau gwneud rhaglen i ddangos bod angen mwy o help ar blant yn yr un sefyllfa.”

Canfu Hero ddihangfa o boen ysgariad drwy gerddoriaeth. Mae hi’n delynores arbennig ac wedi ennill ysgoloriaeth i ysgol gerdd Chethams ym Manceinion. Byddwn yn clywed Hero yn canu cân mae hi wedi ei chyfansoddi am glywed ffraeo ei rhieni, a theimlo ei bod yn y canol rhwng y ddau.

“Roeddwn i eisiau gwneud rhywbeth i ddangos fy emosiynau, dyna dwi’n trio ei wneud wrth ganu,” meddai. Dwi’n dal i deimlo bach yn drist. Roeddwn i’n arfer cyfansoddi lot am ysgariad, roedd fy nghaneuon i gyd am hynny. Ond dwi ddim yn canu cymaint am hynny rŵan. Dwi wedi symud ymlaen,” esbonia Hero.

Yn blentyn, aeth Hero i drafod ei phrofiadau mewn sesiynau cynghori gydag aelod o elusen Relate Cymru. Wedi iddi fynychu’r sesiynau, fe sylweddolodd nad ei bai hi oedd ysgariad ei rhieni.

“Pan roeddwn i’n siarad â’r cwnsler, roeddwn i’n teimlo yn fwy relaxed. Roeddwn i’n teimlo mor euog adeg yna, achos pan ro’n i efo mam, mi oeddwn i’n teimlo mod i angen bod efo dad. A phan ro’n i efo dad, ro’n i’n teimlo ‘mod i angen bod efo mam,” dywed Hero.

Roedd ei phlentyndod, ar brydiau, yn anoddiddi hi, ond bellach mae Hero yn disgrifio ei hun fel person hapus. Ac mae aelod newydd i deulu Hero bellach; mae gan ei mam bartner o’r enw Steve, ac mae Hero yn hoff ohono.

Meddai, “Dwi’n fwy cryf rŵan, dwi wedi bod trwy amser trist iawn. Mi fasa fo wedi bod mor ffantastig i gael rhieni sydd wedi aros efo’i gilydd; mi fasa hynny wedi teimlo’n berffaith. Ond rŵan mae Steve yn ein teulu ni. Ar y dechrau roeddwn i’n poeni fod dad yn cael ei replacio. Ond mae Steve yn lyfi, ac yn ddarn mawr o’n teulu ni.”