Papur Dre

Casgliad digidol ar gyfer papur bro Caernarfon

Gwefan newydd, cylchgrawn electroneg ac ap iPhone i helpu ‘Papur Dre’ wynebu sialens yr oes ddigidol sydd yn herio papurau bro.

Mae’r prosiect yn ganlyniad o lwyddiant Cwmni Da mewn cystadleuaeth ‘Destination Local’ sy’n cael ei redeg gan NESTA sef National Endowment for Science, Technology and the Arts. Mae’r cwmni yn un o ddeg enillydd a gafodd ei dewis yng nghanol 165 o ymgeiswyr ar hyd y Deyrnas Unedig.

Ar gyfer datblygu’r gwasanaeth newydd yma, mae Cwmni Da wedi bod yn cydweithio gyda Papur Dre a myfyrwyr Coleg Menai. Mae hi nawr yn bosib darllen straeon o’r papur, gweld fideos a darganfod digwyddiadau yn y dre. Gellir hyd yn oed tanysgrifio i’r fersiwn digidol sy’n gallu cael ei lawr lwytho ar unrhyw ddyfais, megis ffon symudol, cyfrifiadur neu dablet. Mae’r fersiwn e-pub i’w gael am ddim ar gyfer tanysgrifiwr am y 6 mis cyntaf.

Roedd Cwmni Da yn cynnal gweithdai ar gyfer myfyrwyr Coleg Menai ac yn actio fel mentor ar eu cyfer tra bydden nhw’n creu eitemau fideo ar gyfer math o sianel newyddion ar-lein.

http://www.papurdre.net