• Parti Bwyd Beca

Parti Bwyd Beca

S4C | 6 x 30munud

Beca sy’n gadael ei chegin yng Nghaerdydd i berchnogi ceginau difyr mewn ardaloedd a chymunedau gwahanol ymhob cwr o Gymru.

Beca sy’n cynnal nosweithiau hwyliog o flaen ‘cwsmeriaid’ fydd yn gloddesta ac yn mwynhau’r danteithion. Bydd Beca yn esbonio ryseitiau gwahanol – rhai hawdd ac eraill yn fwy cymhleth, gan gynnig cyngor a datgelu ambell gyfrinach goginio.