Pethe : Cadeiriau Coll
S4C | 1 x 30munud
Yn ogystal â bod yn wlad o feirdd – a chantorion – mae Cymru’n wlad o gadeiriau cain. Mae’r diolch am hynny wrth gwrs i’r beirdd, neu o leia’ i’r arfer unigryw o’u gwobrwyo â chadaeiriau.
Mewn rhaglen arbennig o Pethe, Twm Morys sy’n crwydro Cymru i chwilio am rai o’r cadeiriau a enillwyd mewn Eisteddfodau Cenedlaethol. Lle mae cadeiriau R.Williams Parry a T.H.Parry-Williams? Pa gadair sy’n eiddo i Gyngor Dinas Lerpwl? Pa gadair sy’n amhosib eistedd arni? Bydd Twm yn ymweld ag amgueddfa, tafarn, ysbyty a chastell wrth iddo fynd ar drywydd rhai o’r cadeiriau ‘coll’, ac yn talu sylw arbennig i gadeiriau Dewi Emrys, a enillodd bedair cadair genedlaethol.