• Pethe : Gwyn Thomas

Pethe : Gwyn Thomas

S4C | 1 x 60munud

Gwyn Thomas, y bardd a’r awdur, fu’n holi beth sy’n gyrru pobol i fod yn greadigol, ac yn gofyn oes na’r fath beth ag ‘awen’?

Rhaglen arbennig o Pethe. Roedd Gwyn yn gyn-Fardd Cenedlaethol Cymru, ac yn adnabyddus am addasu’r Mabinogi a gwaith Shakespeare, am gyfansoddi geiriau caneuon ac ysgrifennu sgriptiau, yn ogystal ag am ei waith academaidd.

Wrth edrych ar ei waith ei hun, ac ar waith artistiaid eraill, mi fuodd Gwyn yn holi ai yr un grym sy’n ysbrydoli’r cerflunydd John Meirion Morris a’r canwr Gai Toms, yr artist Gareth Parry a’r cyfansoddwr Owain Llwyd?

Trwy gyfrwng nifer o sgyrsiau difyr cawn olwg o’r newydd ar waith yr artistiaid yma, ac ar yrfa Gwyn ei hun.