Ras Yr Wyddfa
S4C | 1 x 60munud
Uchafbwyntiau un o ddigwyddiadau mawr y calendr rasio mynydd.
Wrth i’r rhedwyr daclo’r sialens galed o Ras yr Wyddfa, sy’n ddeg milltir o hyd, mae Cwmni Da yn taclo’n llwyddiannus y dasg o gynhyrchu rhaglen uchafbwyntiau o’r ras ar gyfer S4C. Mae’n cael ei hystyried fel un o’r rasys fynydd caletaf yn Ewrop ac mae’n rhan erbyn hyn o’r gyfres rasys, y Skyrunner World Series.
Mae 500 o redwyr yn cymryd rhan yn y ras bob blwyddyn. Mae’r cynhyrchiad awr o hyd yn llwyddo i gyfuno rasio eithafol gyda straeon personol y rhedwyr, gyda sawl un yn teithio o ben draw byd i gymryd rhan. Mae’r ras yn gallu digwydd mewn amodau eithafol gyda gwynt, glaw a haul tanbaid yn gallu gwneud amodau gwaith yn anodd i’r criwiau. Ac mae materion iechyd a diogelwch yn ychwanegu at yr her o ffilmio ar fynydd uchaf Cymru a Lloegr. Her arall yw’r ffaith fod y rhaglen yn cael ei ffilmio ddydd Sadwrn a’i darlledu y noson wedyn, ond gyda thîm o olygyddion a thechnegwyr profiadol mae’r cwmni wedi llwyddo (hyd yma) i gadw i’r amserlen dynn.
Mae’r cynhyrchiad wedi ennill gwobr BAFTA Cymru am y Criw Allanol Gorau.