Rhyfel Mawr Trwy Lygaid Ifanc

S4C | 8 x 30munud  | Cwmni Da / Looks Film

Drama ddogfen yn seiliedig ar brofiadau plant o bob rhan o Ewrop yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.

Wrth i’r rhyfel ymledu, bu miloedd o blant o wahanol wledydd yn cofnodi eu profiadau mewn dyddiaduron a llythyrau. Daw’r straeon yma’n fyw gan mlynedd yn ddiweddarach.
Dilynwn Ffrancwr ifanc o’r enw Thierry Gilbert yn ‘Yr Ymosodiad’ sy’n penderfynu ei fod eisiau ymuno â’r fyddin, yn groes i ddymuniadau ei rieni. Yn y ‘Ddihangfa’ mae Justine, merch ifanc yn cael ei dal gan yr Almaenwyr am ddwyn india corn. Fel cosb, maen rhaid talu swm mawr o arian iddyn nhw, neu wynebu carchar.

Mae rhaglen ‘Y Boen’ yn dilyn Almaenes ifanc 12 oed sy’n helpu ei chwaer oedd yn nyrs. Cychwynnodd helpu milwyr oedd wedi cael ei hanafu. Daeth i sylwi na nid gwella’r milwyr fel eu bod yn rhydd i fynd adref y mae hi a gweddill y staff meddygol, ond eu gwella fel y gallent ddychwelyd i ymladd ar flaen y gad.

Mae Alison yn argyhoeddi Luke, gwr ifanc yn ei phentref i wirfoddoli yn y rhyfel yn ‘Y Celwydd’, a dilyn mab bugail sy’n 10 oed o bentref yn ardal De Tirol, Awstria fyddwn ni yn ‘Y Brad’.