Rich a’i Felin Felys

S4C | 1 x 60munud

Mae’r cogydd patisserie Richard Holt wedi cyfnewid bwyty Michelin yn Llundain am felin wynt hudolus ar Ynys Môn, lle mae’n creu cacennau arallfydol wedi’u hysbrydoli gan yr ynys lle’i magwyd.

Yn y rhaglen hon, mae’r cogydd yn mynd ar daith bwyd sy’n gorffen â gwledd anhygoel yn llawn syrpréis melys (a sur!)

Hefyd, fyddwn ni’n cwrdd ag arbenigwyr i ailddarganfod llefydd lleol – o lannau chwedlonol Aberffraw i fwyngloddiau copr symudliw Mynydd Parys a safleoedd cudd o dan Bont eiconig y Fenai.