’Run Sbit
S4C | 6 x 30munud
Cwmni bychan, mam a merch sy’n darparu lookalikes o enwogion Cymreig i unrhyw un sydd eu hangen!
Mae ‘Run Sbit yn gomedi sefyllfa wedi ei ffilmio mewn steil rhaglen ddogfen. Cawn mewnwelediad i drafferthion dyddiol cwmni bychain ger Caernarfon o’r enw ‘Run Sbit; yr unig asiantaeth yn y byd sy’n arbenigo mewn darparu tebygwyr (neu lookalikes) o enwogion Cymreig. Ni cheir tebygwr o David Beckham neu Beyoncé fan hyn, ond mae digonedd o Mici Plwms a Daloni Metcalfes i fynd a pryd unrhyw un.
Cwmni mam a merch yw’r asiantaeth, sy’n cael ei rhedeg gan Linda a Caren Brown. Er mai Caren yw’r callaf o bell ffordd, Linda sydd wrth y llyw, ac mae nifer o gamddealltwriaethau ac anawsterau yn dod yn sgil hynny.