Rybish
S4C | 6 x 30munud
Cyfres gomedi wedi ei lleoli mewn canolfan ailgylchu yn y gogledd.
Mae Rybish yn troi o gwmpas bywyd beunyddiol mewn canolfan ailgylchu anghysbell yng Ngwynedd ac yn dilyn y chwe aelod o staff wrth iddyn nhw fynd o gwmpas eu gwaith bob dydd. Adeiladwyd set pwrpasol i’r gyfres yng Ngharmel ger Caernarfon.
Ym mis Ebrill 2022, fe dderbynodd Barry ‘Archie’ Jones enwebiad yn yr Ŵyl Geltaidd am y gyfres.