Ryland a Roisin : Clancy Cymru
S4C | 1 x 60munud
Ryland Teifi a’i wraig Roisin Clancy sy’n ceisio ffurfio grŵp gwerin Cymreig/Gwyddelig newydd sbon ar gyfer Gŵyl Werin Tyddewi
Cafodd y canwr Ryland Teifi a’i wraig Roisin Clancy gomisiwn i ffurfio grŵp newydd sbon ar gyfer gŵyl werin Tyddewi i ddathlu’r cysylltiad clos rhwng y rhan yma o Gymru a’r Ynys Werdd. Mae Roisin yn ferch i Bobby Clancy un o’r Brodyr Clancy enwog a phriodi cryfderau y traddodiad cerddorol Gwyddelig efo rhinweddau’r traddodiad Cymraeg ydi sialens Ryland a Roisin wrth baratoi ar gyfer eu perfformiad yn Nhyddewi.
Mae’r rhaglen yn dilyn y broses o wahodd cerddorion i ffurfio’r band newydd, Clancy Cymru, ac fe gawn gyfle i ddod i adnabod teuluoedd Ryland a Roisin a chlywed am ddylanwadau cerddorol y ddau.