Shwshaswyn
S4C | 26 x 7munud
Camwch i mewn i Shwshaswyn, ble mae Seren, Fflwff a’r Capten yn gwahodd plant i ddianc o brysurdeb eu byd – drwy arafu, llonyddu a thawelu…
Cyflwynir ymarferion yn y gyfres sydd yn rhan o dechnegau ymwybyddiaeth ofalgar (mindfulness) i blant. Mae Fflwff yn ei hannog i anadlu, y Capten i wrando, tra mae Seren yn defnyddio jar ofalgar.
Mae’r tri yn ddulliau o helpu ymlacio meddwl y plentyn er mwyn gallu chwarae gydag un peth ar y tro a chanolbwyntio ar y byd o’u hamgylch.