Stori Pêl-droed Cymru
S4C | 6 x 30munud
Dewi Prysor sy’n darganfod mwy am hanes pêl-droed Cymru, y straeon, y digwyddiadau dadleuol, y methiannau a’r llwyddiannau achlysurol.
Dewi sy’n cwrdd â haneswyr fel Mei Emrys a Geraint Jenkins, arbenigwyr yn y maes; yn ogystal â’r bobl hynny sy’n cadw’r bêl yn rholio o wythnos i wythnos. Golwg ar rai o’r rhwystrau wnaeth atal twf a datblygiad naturiol y gêm; rhwystrau fel y capeli, y gyfraith, byd addysg ac wrth gwrs, yr un na fedrir osgoi sôn amdano … rygbi!