Syrcas Deithiol Dewi
S4C | 26 x 10munud
Cyfres animeiddio sy’n dilyn anturiaethau Dewi, bachgen saith oed sy’n arwain syrcas deithiol o gwmpas y wlad.
Yn ystod y gyfres cawn gwrdd â gwledd o gymeriadau doniol sy’n rhan o’r syrcas, gan gynnwys Bobo y mwnci, Li a Ling yr acrobatwyr a Sianco y cerddor. Mae’r gyfres eisoes wedi ymddangos a’r Channel 5 fel ‘Toby’s Travelling Circus’ ac wedi ennill canmoliaeth eang ymysg gwylwyr.
Hedydd Ioan yw llais y cymeriad Dewi, ac mae portreadu Dewi yn gofyn am sawl perfformiad gwahanol o fewn y rôl, gan gynnwys perfformiad ‘mawr’ wrth wisgo het y Cylchfeistr a dyma un o hoff rhannau Hedydd i chwarae.
“Dwi’n licio neud hynna lot! Dwi’n teimlo fel bod na gynulleidfa yna go iawn”
Dewi sydd yng ngofal y syrcas i bob pwrpas, â baich cyfrifoldeb mawr arno o dro i dro, ond mae’n fachgen hyderus, ac mae’n gwybod y gall o ddibynnu ar ei ffrindiau pan fo angen. Yn ol Hedydd, ma na rhwbeth i bawb wrth wylio’r cartwn
“Ma’n rhwbeth i’r teulu oll i sbio arni – ma Dewi a’i ffrindiau yn cael llwyth o anturiaethau gwahanol. Mae nhw’n cael hwyl – ac ma jôcs i oedolion hefyd!”