Taith Fawr Y Dyn Bach
S4C | 6 x 30munud
James Lusted fu’n teithio Cymru i gwrdd â phobl sydd ag anableddau amrywiol
Cafodd James ei eni gyda chyflwr o’r enw diastrophic dysplasia, sef ffurf brin o gorachedd. Mae James, sy’n dod o Landrillo yn Rhos yn Sir Conwy, yn dair troedfedd, saith modfedd o daldra.
“Dwi wedi dysgu lot yn ystod Taith Fawr y Dyn Bach. Ro’ ni’n gwybod am y gwahanol gyflyrau ond ddim yn deall sut roedden nhw’n effeithio ar bobl a pha mor anodd ydy rhai ohonyn nhw i fyw efo nhw. Mae’r profiad wedi bod yn un blinedig yn gorfforol ac yn feddyliol, ond dwi wedi cyfarfod pobl anhygoel ar fy nhaith.”
Yn ystod yr ail gyfres, fuodd James yn teithio trwy Gymru yn Taith Fawr y Dyn Bach, ac yn cwrdd â Corinna sydd â Myotubular Myopathy, Tina sydd â Friedreich’s Ataxia, Dafydd sydd yn awtistig, Catrin sydd â Spina Bifida a Tanwen a James sydd ag anableddau dysgu.