Tic Toc
S4C | 1 x 47munud
Mae Ceinwen yn gaeth i’w chadair o flaen y tân ac mewn stad parhaol o alar am aelodau eraill ei theulu, sydd wedi marw fesul un a’i gadael yn unig.
Yn eironig ddigon, Ceinwen oedd yr aelod gwannaf o’r teulu yn gorfforol, a hynny ers yn blentyn ond wnaeth hynny ddim ei hatal rhag cael y llaw uchaf ar bob aelod o’r teulu yn eu tro.
Drwy gydol y gomedi dywyll, macabre hon, byddwn yn dod i adnabod Ceinwen yn well wrth iddi ailfyw rhai o ddigwyddiadau mwyaf arwyddocaol ei bywyd. O dipyn i beth, down i sylweddoli nad yw pethau fel yr ymddangosant ar yr olwg gyntaf a bod sawl cyfrinach ddychrynllyd yn cuddio o dan yr wyneb.
Dyma fonolog newydd gan yr awdur-gyfarwyddwr Delyth Jones (Yr Aduniad, Cwcw) fydd yn sicr o godi gwên a gwrychyn am yn ail.