Tir Neb

S4C | 1 x 90munud | Cwmni Da / Looks Film

I lawer, ‘tir neb’ – y llain o dir diffaith rhwng y ffosydd yn Ffrainc a Fflandrys – yw’r sumbol fwyaf ingol o’r gwastraff bywyd a fu yn ystod rhyfel gwaedlyd 1914-18.

Mae ‘Tir Neb’ yn ffilm ddogfen delynegol a thrasig, sy’n adrodd hanes y Rhyfel Mawr, o’i ddechrau i’w ddiwedd, yng ngeiriau’r bobl a ddioddefodd ar ddwy ochr tir neb – pobl fel Ernst Toller, myfyriwr o Bavaria, neu Maurice Maréchal, y cerddor ifanc o Dijon. Roedd y Gwyddel, y Tad William Doyle yn gaplan gyda’r fyddin Brydeinig, tra bod Mary Borden, yn Americanes oedd yn nyrsio mewn ysbyty rhyfel yn agos i’r llinell flaen.

Mae’r ffilm yn seiliedig ar eu llythyrau o’r cyfnod  – ac yn eu plith mae cyfraniadau gan dri Chymro: Huw T. Edwards a ddaeth i amlygrwydd ar ôl y rhyfel fel arweinydd undeb, T. Salisbury Jones, gwas sifil yn ei 30au gafodd ei alw i’r fyddin yn 1917, a Hughie Griffith, Americanwr Cymraeg ei iaith a anwyd yn nhalaith Efrog Newydd, ond a ymunodd â byddin Canada yn 1915.

Bu’r criw cynhyrchu yn ffilmio mewn lleoliadau arwyddocaol o’r cyfnod – adfeilion milwrol, gweddillion y ffosydd a’r mynwentydd rhyfel – ond delweddau archif sydd yn gyrru naratif y ffilm ac mae llawer o’r delweddau hyn heb eu gweld ar deledu yng Nghymru o’r blaen.