Tony ac Aloma : I’r Gresham

S4C | 4 x 30munud

Cyfres mewn arddull ‘pry-ar-y-wal’ sy’n dilyn bywydau un o ddeuawdau mwyaf eiconig Cymru, Tony ac Aloma. Mae’r ddau bellach yn rhedeg Gwesty yn Blackpool, ac yn canu yno i’w ffans ffyddlonaf.

Yn y rhaglen gyntaf mewn cyfres o bedair cawn ein cludo ‘I’r Gresham’ yn Blackpool, gwesty sy’n cael ei redeg gan y ddeuawd eiconig, Tony ac Aloma. Mae’r Gresham yn gyrchfan i fwseidiau o Gymry pob blwyddyn sydd a’u bryd ar dreulio penwythnos Cymreig, yn hel atgofion ac ail fyw’r dyddiau da yng nghwmni’r ddeuawd boblogaidd. Ond mae Tony ac Aloma dan straen wrth i ddyddiad  cyhoeddi eu llyfr cyntaf agosau. Yn y bar, mae na griw bywiog o Gymru wedi rhoi eu bryd ar glywed Tony ac Aloma yn canu, ond fydd y ddau yn ymddangos cyn diwedd y noson?