Tyfu Pobl

S4C | 6 x 30munud

Cyfres yng nghwmni Russell Jones a Bethan Gwanas sy’n annog pobl i ddechrau garddio.

Mae Bethan a Russell eisoes yn gyfarwydd i wylwyr S4C fel cyflwynwyr y gyfres arddio Byw yn yr Ardd gynt, ac mae’r ddau’n torchi llewys ac yn mynd i’r afael â phridd a photiau a phethau gwyrdd yn y gyfres hon hefyd. Ond mae Tyfu Pobl yn fwy na chyfres am arddio; mae hi’n gyfres am bobl, am ddysgu, am newid ac am dyfu.