Wil ac Aeron – Gwlad Y Ceirw
S4C | 1 x 60munud | Cwmni Da / Cynyrchiadau Hay
Wil ac Aeron fu’n bugeilio ceirw yn eithafoedd yr Arctig wrth geisio eu symud yn ddiogel dros 200 milltir o dir dan eira trwchus.
Mae’r ddau ffermwr ifanc o ardal Machynlleth, Wil Hendreseifion ac Aeron Pughe yn hen gyfarwydd â gofalu am gannoedd o ddefaid ac am gystadlu’n rhyngwladol fel cneifwyr ond mae’r her mae’r ddau’n wynebu yn Wil ac Aeron – Gwlad y Ceirw yn brofiad hollol newydd i’r ddau.
Bugeilio ceirw yn eithafoedd yr Arctig mae’r ddau ffrind yn y rhaglen sydd â naws Nadoligaidd iddi gydag eira, clychau ac anrhegion yn ogystal â cheirw yn chwarae rhannau pwysig yn y stori sydd nid yn unig yn stori antur ond hefyd yn lot fawr o hwyl.
Gwlad y Samiaid yng ngogledd Norwy – gwlad sydd byth a beunydd yng ngolau dydd – yw lleoliad y rhaglen. Y dasg sy’n wynebu Wil ac Aeron yw symud rhai cannoedd o geirw yn ddiogel dros 200 milltir o dir dan eira trwchus ac mewn oerfel sy’n brathu.
Bob gwanwyn mae’r ceirw’n symud o dir pori isel y gaeaf dros lwyfandir y mynyddoedd agored nes cyrraedd arfordir y gogledd lle maen nhw’n geni eu lloi dros yr haf. Gwaith Wil ac Aeron yw bugeilio’r ceirw ar eu siwrne gan deithio ar gefn ski-doos sy’n berffaith ar yr eira caled ond sy’n dueddol o suddo i’r eira meddal.
Cyn diwedd y daith mae’r ddau’n cael y cyfle i fugeilio’r ceirw ar eu pennau eu hunain mewn tymheredd sydd weithiau mor isel â -15 gradd canradd. Sut hwyl maen nhw’n cael arni a pha mor wahanol yw’r dasg i’r gwaith o fugeilio praidd o ddefaid?
Mae Wil ac Aeron yn ymgartrefu gyda dau deulu o Samiaid ac yn cael croeso arbennig iawn. Yn ogystal â dysgu Wil ac Aeron sut i fugeilio ceirw, mae’r Samiaid yn dysgu rhywfaint o’u hiaith i’r ddau a mynd â nhw am ddiwrnod o bysgota drwy dyllau yn yr ia.
“Wnaethon ni ddim teimlo fel dynion diarth o gwbl,” meddai Aeron. “Roedden nhw’n groesawgar dros ben ac yn barod i ddysgu popeth i ni. Roedd yn gyfle oes a fydd yn aros yn fy nghalon am byth. Maen nhw’n bobl sy’n hapus â’r ychydig sydd gyda nhw. Dwi’n fwy ymwybodol nawr mor ffodus rydym ni. Dwi’n cwyno llai erbyn hyn.”
Wedi dweud hynny, mae’r ddau’n cytuno eu bod nhw wedi ‘cael llond bol o’r eira’ ac o syrthio ynddo gyda bron bob cam roedden nhw’n cymryd.
Yn adnabyddus ar raglenni fel Noson Lawen a Ffermwyr Ifanc o’r Grand, mae Wil ac Aeron wedi teithio dipyn tramor mewn cystadlaethau cneifio ac enillodd Wil ysgoloriaeth gan Hybu Cig Cymru i deithio yn Ne America. Mae Aeron hefyd yn adnabyddus fel y cymeriad Ben Dant yng ngwasanaeth plant S4C, Cyw.
Mae Aeron yn un o dri brawd sy’n helpu eu rhieni i ofalu am y defaid a’r gwartheg ar eu fferm ger Darowen, ardal Machynlleth. Ffermwr llawn amser yw Wil sydd hefyd yn cadw defaid a gwartheg ar ei fferm yn ardal Llanwrin ger Machynlleth.