Wil ac Aeron – Taith Rwmania

S4C | 6 x 30munud

Mae Wil Hendreseifion, Aeron Pughe a’r Camperfan yn ôl, ac yn ymgymryd a sialens newydd. Maen nhw’n teithio i bwynt pellaf a mwyaf Dwyreiniol yn Ewrop; maen nhw’n mentro i Rwmania.

Ar daith dros 4000 o filltiroedd o un pen o’r wlad i’r llall, mae’r ddau ffrind ar daith i ddarganfod hud a lledrith y wlad, i ddysgu am yr heriau comiwnyddol dros y ddegawdau diwethaf, ac i ymdrochi yn niwylliant a thraddodiadau y cymunedau.
O deulu lliwgar y Sipsiwn i’r wrach enwocaf y wlad; ac o bysgotwyr y Delta i fynyddoedd anodd y Maramures, daw Wil ac Aeron i adnabod y ‘gwir’ Rwmania a’i phobol.